WEDI'I DYFU A'I BOBI'N LLEOL

PRIDD- GRAWN - TÂN

 
 

EIN BREUDDWYD

Ein breuddwyd yw tyfu cynhwysion ffres ar raddfa fechan ar gyfer ein busnes. Mae hyn yn cynnwys mathau treftadaeth o rawn, yn ogystal â ffrwythau, perlysiau, llysiau a blodau bwytadwy. Nid ydym wedi tyfu bwyd ar gyfer busnes erioed o'r blaen, felly ni allwn honni ein bod yn arbenigwyr, ond rydym yn dysgu gan eraill ac yn rhoi cynnig arni. Rydym yn gobeithio defnyddio'r cynhwysion cartref hyn yn ein bara a'n cynnyrch crwst, ac mewn digwyddiadau.

Y DECHRAU

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda ffermwyr a thyfwyr lleol, a chymdogion yn ardal Machynlleth, i dreialu tyfu gwenith ym Mro Ddyfi, gan greu cronfa o wybodaeth, tir, offer, amser ac adnoddau fel y gallwn ddysgu tyfu gyda'n gilydd. O ran y dyfodol, mae gennym ddiddordeb mewn tyfu rhai o'r mathau llai cyffredin o rawn nad ydynt yn cael eu cynhyrchu'n aml yng Nghymru bellach (e.e. Hen Gymro), gyda chefnogaeth rhaglen 'Seed Sovereignty' Gaia Foundation.

Rydym hefyd wedi bod yn datblygu ein sgiliau tyfu bwyd gyda chymorth menter Llwybrau at Ffermio Mach Maethlon. Mae'r cynllun hwn yn hyfforddi tyfwyr lleol i sefydlu eu busnesau tyfu bwyd eu hunain a chyflenwi cynnyrch lleol i Fro Ddyfi. Yn ein hachos ni, mae hyn yn golygu tyfu cynhwysion ar gyfer Rhyg a Rhosod, i ychwanegu gwerth i'n cynhyrchion a'n digwyddiadau.

Y DYFODOL

Rydym yn ffodus o fod wedi'n lleoli yng nghanol ardal wledig brydferth lle gallwn rannu tir ag eraill i dyfu bwyd. Uwchben y popty tân coed y bydd gennym yn y dyfodol, rydym yn gobeithio adeiladu platfform sychu lle gallwn sychu ein cynnyrch a dyfir yn lleol, gan wneud yn fawr o'r gwres sydd dros ben o'r tân. Gydag amser, yn ogystal â thyfu rhai o'n cynhwysion ein hunain ar gyfer ein popty a'n digwyddiadau, gobeithiwn ddatblygu mathau newydd o fwyd i'w gwerthu ym Marchnad Machynlleth a thrwy siopau lleol.

PAM TYFU EICH BWYD EICH HUN?

Mae ein byd yn newid. Yn y dyfodol, efallai y bydd hi'n anos cael gafael ar fwyd oherwydd y newid yn yr hinsawdd, gwleidyddiaeth ac economeg heriol, a hyd yn oed pandemigau byd-eang. Drwy ddysgu tyfu ein bwyd ein hunain yn lleol, gobeithiwn ddarparu ar gyfer ein teulu, dysgu oddi wrth ein cymuned ffermio a chyfrannu at ein cymuned ac economi leol.

Rydym hefyd yn gobeithio annog bioamrywiaeth drwy groesawu gwenyn, pryfed, adar, planhigion âr ac anifeiliaid yn ôl i'r tir drwy ddulliau ffermio sy'n ystyriol o natur. Rydym hefyd yn gobeithio tyfu bwyd wedi'i addasu ar gyfer hinsawdd Cymru, ac ailddatblygu pridd cyfoethog a ffrwythlon.