BARA GO IAWN.

WEDI'I BOBI YM MACHYNLLETH. CANOLBARTH CYMRU.

Ein harbenigedd yw pobi bara surdoes, wedi'i wneud â llaw gan ddefnyddio cynhwysion syml (blawd, dŵr, halen a'n cychwynwyr surdoes) a phroses eplesu araf.

Lle bo hynny'n bosib, mae ein cynhwysion yn rhai organig, ond nid ydym yn bopty sydd ag ardystiad organig. Rydym yn tyfu rhai o'n cynhwysion ein hunain ar raddfa fechan ar gyfer bara, cynnyrch crwst a digwyddiadau. Mae'r cynhwysion hyn yn cynnwys gwenith, ffrwythau, perlysiau a llysiau.

Mae gennym hefyd bopty pizzas sy'n llosgi tân coed.

Mae'r holl leoliadau sy'n gwerthu ein bara wedi eu cynnwys ar y dudalen Prynu Bara, a gallwch weld manylion ein hamrywiaeth bresennol o fara a chynnyrch crwst isod.

Y popty yn Llwyn, Penegoes.


 

EIN BARA

// Sgroliwch i'r gwaelod am restr gryno o nwyddau cyfanwerthu a Marchnad Machynlleth.

 
 
mach sour 2.jpg

SURDOES MACh

Yn llawn blas ar gyfer brechdanau hyfryd a thost anhygoel. O fwydo ein cychwynnwr am y tro cyntaf i bobi'r dorth orffenedig, mae'n cymryd tua 24 awr i'w wneud. 70% blawd gwyn organig a falwyd â maen, 30% blawd cyflawn wedi'i dyfu a'i felino yng Nghymru.

(850g. Gwenith (GLWTEN), dŵr, halen)


 
 

SURDOES MACH

 HADAU

Mae pob tamaid bach yn wledd i'r synhwyrau. Yn llawn blas a gwead. Caiff yr hadau eu tostio a'u hydradu cyn eu hychwanegu at y toes. Mae'n gwneud y tost gorau erioed!

(690g. Gwenith (GLWTEN), dŵr, halen, hadau blodyn haul, had llin, hadau pwmpen, hadau SESAME, hadau pabi)

 

SURDOES MACH OLEWYDD

Wedi'i gwneud ag olewydd Kalamon o Wlad Groeg, mae'r dorth hon yn fendigedig wedi'i gweini ar yr ochr gyda bwyd Canoldirol a digonedd o olew olewydd.

(550g. Gwenith (GLWTEN), dŵr, olewydd du (olewydd, halen, finegr, olew olewydd, asid lactig), halen)

 
 

SURDOES MACH

CNAU FFRENGIG

Yn llawn cnau Ffrengig wedi'u tostio. Wedi'i gwneud â'r un toes â Surdoes Mach. Mae'r dorth hon yn berffaith gyda chaws, cyffeithiau melys a menyn cnau, ac wedi'i thostio gyda ricotta a mymryn o fêl. Surdoes blasus gyda chnau Ffrengig ffres a chrensiog wedi'u taflu i mewn.

(550g. Gwenith (GLWTEN), dŵr, cnau Ffrengig (CNAU), halen)

 
 

TORTH DUN WEN, FEDDAL

Torth dun wen, feddal, wedi'i chodi â burum pobydd arferol, ond roedd rhaid inni gael ychwanegu ychydig o gychwynnwr surdoes i roi blas iddi hefyd, wrth gwrs.

(800g. Gwenith (GLWTEN), dŵr, halen, burum).

 
 

Torth Dyfi

Torth fendigedig 75% bara cyflawn wedi'i gwneud â gwenith cyflawn 'YQ' wedi'i dyfu ar Cwm Llwyi, Abercegir, a'i felino gennym ni, yma ym Mro Ddyfi. Caiff y bara hwn ei bobi mewn pobiadau o naw torth, mewn ffrâm dderw, a'i wneud gyda chychwynnwr 100% surdoes Dyfi.

(700g. Gwenith (glwten), halen)


 
 

BATSIEN SBELT

Torth hyfryd o feddal a chneuog, wedi'i brasbobi mewn ffrâm dderw. Mae sbelt yn hen berthynas i wenith, ond mae llai o glwten ynddo. Rydym yn defnyddio ein cychwynnwr surdoes rhyg i roi dechrau da i'r dorth arbennig hon, gan ychwanegu dim ond blawd sbelt, dŵr, halen ac amser. Torth wych ar gyfer brechdanau a thost oherwydd y tafelli mawr sgwâr a'r gwead meddal.

(700g. Sbelt (GLWTEN), rhyg (GLWTEN), dŵr, halen)

 
 

VOLLKORNBROT 100% RHYG

Mae'r dorth Almaenaidd draddodiadol hon yn bleser i'w gwneud. Rydym yn aeddfedu'r cychwynnwr surdoes rhyg ac yn mwydo grawn rhyg cyfan wedi'u torri'n fân a hadau blodyn haul mewn dŵr a mymryn o driagl am 18 awr - cyn dechrau gwneud y toes.

(Surdoes Rhyg Grawn Cyflawn) (1250g. Rhyg (GLWTEN), dŵr, hadau blodyn haul triagl*, halen. 

*Nid yw'r triagl yn addas ar gyfer rhai sydd ag alergedd CNAU, PYSGNAU neu SESAME.

 
 

TORTH DUN

HEN GYMRO

60% wholemeal flour

(600g. Gwenith (GLWTEN), dŵr, halen, burum)

CYNNYRCH CRWST

Rydym yn gwneud amrywiaeth o gynnyrch crwst bendigedig, o croissants a pain au raisin, i doesenni a chryffins. Ar ddydd Mercher, mae ein holl gynnyrch crwst yn fegan, gan fod Andy's Bread o Lanidloes yn dod â'r stwff menyn i'r farchnad. Ond ar y penwythnosau, rydym yn gwneud cynnyrch crwst fegan a rhai sy'n cynnwys menyn. Mae ein cynnyrch crwst i gyd yn cael ei godi gyda burum pobydd traddodiadol a chychwynnwr surdoes gyda'i gilydd.

Sylwch, os gwelwch yn dda, fod ein holl gynnyrch crwst fegan yn cynnwys CNAU, a bod ein holl gynnyrch crwst nad yw'n fegan yn cynnwys LLAETH ac WYAU. Mae’r ddau’n cynnwys GWENITH.

 

Cynhyrchion Cyfanwerthu

BARA: SURDOES MACH / SURDOES MACH OLEWYDD / SURDOES MACH Â HADAU / SURDOES MACH CNAU FFRENGIG / TORTH DUN WEN, FEDDAL / HANNER VOLLKORNBROT 100% RHYG / TORTH DUN HEN GYMRO

CYNNYRCH CRWST: BYNSEN SINAMON / CROISSANT / PAIN AU RAISIN / PAIN AU CHOCOLAT / CROISSANT ALMON / CNAU CYLL PAIN AU CHOCOLAT

Cynhyrchion Marchnad MAchynlleth

BARA: SURDOES MACH / SURDOES MACH OLEWYDD / SURDOES MACH Â HADAU / SURDOES MACH CNAU FFRENGIG / TORTH DUN WEN, FEDDAL / HANNER VOLLKORNBROT 100% RHYG / TORTH DUN HEN GYMRO

PLWS: TORTH DYFI / BATSIEN SBELT

CYNNYRCH CRWST: BYNSEN SINAMON / CROISSANT / PAIN AU RAISIN / PAIN AU CHOCOLAT / CROISSANT ALMON / CNAU CYLL PAIN AU CHOCOLAT

PLWS: CACENNAU TE ANFERTH


RBC-proud-banner-black-bg-transparent_400px.png

BARA GWELL

Mae ein blawd i gyd yn cael ei falu â maen lle bo hynny'n bosib, er mwyn cadw'r bywyn gwenith, fel bod ein bara'n fwy maethlon a blasus. Mae bron popeth rydym yn ei bobi yn cael ei godi â'n cychwynwyr surdoes yn unig - mae bara araf yn fara da yn ein barn ni.

Rydym yn defnyddio Felin Ganol yn Llanrhystud ar gyfer ein blawd gwyn Cymreig, yn ogystal â blawd cyflawn organig, blawd rhyg, rhyg mâl, bran a semolina. Rydym yn defnyddio Melin FWP Matthews yn y Cotswolds ar gyfer blawd gwyn organig wedi'i falu â maen. Rydym hefyd yn tyfu mathau traddodiadol o rawn a chynhwysion ar raddfa fechan ar gyfer ein busnes. Rydym yn aelodau o'r Real Bread Campaign Real Bread Campaign, ac nid ydym yn defnyddio unrhyw 'gymhorthion prosesu' nac ychwanegion artiffisial.

Ar hyn o bryd, rydym yn pobi mewn hen adeilad fferm wedi'i addasu, yn Llwyn yn ein pentref ni - Llanegoes, gan ddefnyddio dau bopty Rofco B40. Mae gennym hefyd bopty pizzas sy'n llosgi coed. Un diwrnod, fe hoffem adeiladu popty bara math Alan Scott a gweithredu cymaint â phosib oddi ar y grid. 

Hoffem ddiolch yn fawr i Maggie a Rick o Mair's Bakehouse, a fu'n garedig iawn yn trosglwyddo eu stondin ym Marchnad Machynlleth i ni yn 2018, wrth iddynt symud yn ara' deg tuag at ymddeol. Fe wnaethant weithio'n ddyfal am naw mlynedd i ddod â bara surdoes tân coed i Fachynlleth, a dymunwn y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.